Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 7 Mawrth 2022
Amser:
14.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Price - Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
Deisebau@senedd.cymru
------
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
(Tudalennau 1 - 19)
2 Sesiwn Dystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg
Gwenith Price, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg
Eleri James,
Swyddfa Comisiynydd y
Gymraeg
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru
(Tudalennau 20 - 27)
3.2 P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
(Tudalennau 28 - 35)
3.3 P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol
(Tudalennau 36 - 45)
3.4 P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
(Tudalennau 46 - 58)
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru.
(Tudalennau 59 - 69)
4.2 P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio
(Tudalennau 70 - 73)
4.3 P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021
(Tudalennau 74 - 78)
4.4 P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato
(Tudalennau 79 - 80)
4.5 P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL
(Tudalennau 81 - 85)
5 Papur i'w nodi - Llythyr ac adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ymgysylltu â phlant a phobl ifanc am flaenoriaethau'r Pwyllgor ar gyfer blaenoriaethau'r Senedd.
(Tudalennau 86 - 87)
Blaenoriaethau pobl ifanc ar gyfer y Pwyllgor yn y Chweched Senedd
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 7 y cyfarfod.
7 Trafod tystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg